30th August 2023

Woodland Hope and horseshoes take flight!

Woodland Hope and horseshoes take flight!

Elliot Bastos - Assistant Wales Officer

Our new Celtic Rainforest project in Wales got off to a flying start with our first community event bearing witness to a joyous spectacle: Over 100 lesser horseshoe bats emerging from a stable in Snowdonia.

We continued with a bat walk around Pensychnant’s nature reserve to see and hear other foraging bats, including pipistrelles, noctules and serotines. The evening also featured a talk about this precious rare woodland habitat and the rare bats they support, and how we will be monitoring them over the next two years as part of Bat Conservation Trust’s Gobaith Coetir – Woodland Hope project.

These beautiful bats’ audience for the evening ranged from 14-year-olds upwards with representatives from the Snowdonia National Park, Natural Resources Wales, Ecologists from Anglesey and Conwy Councils, the Celtic Rainforests Wales, the Local Nature Partnership, the North Wales Wildlife Trust, other interested parties and members of Pensychnant whom we hope will be our future volunteers.

The event was buzzing with excitement and lots of planning for joint events. It was heartening to witness so much interest in our project as a whole and particularly in the AudioMoth AI recording kit which we will be using in our monitoring programme. We demonstrated how these work and one was placed on the reserve. Our hosts, Karen & Julian Thompson, await keenly for the results as this has not been done there before and there’s every chance the Audiomoth will discover some bat species not recorded there before.

One guest, Kitty, aged 14, said: “I’m soooooo lucky to be doing this!’ - her first ever bat walk experience and her first time using a bat detector which she loved and she was very inspired to do more.

Woodland Hope and horseshoes take flight!

Nicky Fish - Wales Officer

People learned about the veteranisation of trees too. This is a novel technique being trialed to create ‘aged’ tree features and has been carried out at Pensychnant by tree surgeon Harry to artificially provide holes and crevices for bats to use.

Thanks to Pensychnant Conservation Centre on the Sychnant Pass near Conwy in Snowdonia.

BCT’s team will be working together in partnership with many of the contacts made. Watch this space!

Gobaith Coetir – Woodland Hope will run until March 2025 and help some of Britain’s rarest bats and most precious woodlands in North Wales. Our work will focus on priority sessile oak woods, alder alluvial forest, bog woodland and their bats. All 15 bat species found in Wales use woodland for roosting, foraging or commuting. You can read more about the project here.

The project will upskill the local community in citizen science, work with local partners and make it possible to monitor woodland bats in innovative and collaborative ways. This project will then advise on bringing woodland health into recovery.

This summer, the 13th summer count of lesser horseshoes in Snowdonia saw counts rise from 1,700 bats, when this site monitoring began, to just under 3,000 across a dozen key local roosting sites in 2023. Hope indeed!

This project is funded by the Nature Networks Fund, via the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.

Gobaith Coetir ac ystlumod pedol ar gynnydd!

Cafodd ein prosiect newydd Fforest Law Geltaidd yng Nghymru gychwyn gwych pan welwyd golygfa fendigedig yn ein digwyddiad cymunedol cyntaf: Dros 100 o ystlumod pedol lleiaf yn dod allan o stabl yn Eryri.

I ddilyn hynny cafwyd taith gerdded ystlumod o amgylch gwarchodfa natur Pensychnant, i weld a chlywed ystlumod eraill yn fforio, gan gynnwys yr ystlum lleiaf, yr ystlum mawr a’r ystlum adain-lydan. Roedd y noson hefyd yn cynnwys sgwrs am y cynefin coetir gwerthfawr hwn, sydd mor brin, a’r ystlumod prin mae’n eu cynnal, yn ogystal â sut byddwn ni’n eu monitro yn ystod y ddwy flynedd nesaf fel rhan o brosiect Gobaith Coetir – Woodland Hope yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (BCT).

Roedd cynulleidfa’r ystlumod hardd hyn ar y noson yn amrywio o blant 14 oed i gynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ecolegwyr o Gynghorau Môn a Chonwy, Fforestydd Glaw Celtaidd Cymru, y Bartneriaeth Natur Leol, Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru, eraill â diddordeb, ac aelodau o Bensychnant, yr ydym ni’n gobeithio fydd yn gwirfoddoli gyda ni yn y dyfodol.

Roedd y digwyddiad yn llawn cyffro, ac roedd llawer o gynlluniau i gynnal digwyddiadau ar y cyd. Roedd yn galonogol bod cymaint o ddiddordeb cyffredinol yn ein prosiect, ac yn arbennig yn yr offer recordio AudioMoth AI, y byddwn ni’n ei ddefnyddio yn ein rhaglen fonitro. Fe wnaethon ni ddangos sut mae’r rhain yn gweithio, a rhoddwyd un yn y warchodfa. Mae Karen a Julian Thompson, a’n croesawodd ni yno, yn disgwyl yn eiddgar am y canlyniadau, gan fod hyn heb gael ei wneud o’r blaen, ac mae’n bosib iawn y bydd yr Audiomoth yn darganfod rhai rhywogaethau o ystlumod sydd heb eu cofnodi yno o’r blaen.

Dywedodd un gwestai, Kitty, sy’n 14 oed: “Rydw i mooooor lwcus yn cael gwneud hyn!’ – dyma oedd ei phrofiad cyntaf erioed o daith gerdded ystlumod, a’r tro cyntaf iddi ddefnyddio synhwyrydd ystlumod. Roedd hi wrth ei bodd, ac fe gafodd ei hysbrydoli i wneud mwy.

Dysgodd pobl am roi nodweddion hynafol i goed hefyd. Techneg newydd yw hon, sy’n cael ei threialu er mwyn creu nodweddion ‘hŷn’ mewn coed, ac mae Harry, arbenigwr trin coed, wedi bod yn gwneud y gwaith yma ym Mhensychnant er mwyn darparu tyllau a chilfachau artiffisial i ystlumod eu defnyddio.

Diolch i Ganolfan Gadwraeth Pensychnant ar Fwlch Sychnant ger Conwy yn Eryri.

Bydd tîm BCT yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o’r cysylltiadau a wnaed. Cadwch lygad ar agor am y newyddion diweddaraf!

Bydd Gobaith Coetir yn parhau tan fis Mawrth 2025 ac yn helpu rhai o ystlumod prinnaf Prydain a rhai o goetiroedd mwyaf gwerthfawr gogledd Cymru. Ffocws ein gwaith fydd rhoi blaenoriaeth i goed deri digoes, fforestydd gwern llifwaddodol, coetir cors a’u hystlumod. Mae pob un o’r 15 rhywogaeth o ystlumod a geir yng Nghymru yn defnyddio coetir ar gyfer clwydo, fforio neu gymudo.

Bydd y prosiect yn codi lefel sgiliau’r gymuned leol o ran gwyddoniaeth y dinesydd, yn gweithio gyda phartneriaid lleol, ac yn golygu bod modd monitro ystlumod coetir mewn ffyrdd arloesol, cydweithredol. Yna bydd y prosiect hwn yn rhoi cyngor ar sicrhau adferiad i iechyd coetiroedd.

Yr haf yma, pan gafodd ystlumod pedol lleiaf Eryri eu cyfrif am y 13eg tro yn yr haf, gwelwyd bod y niferoedd wedi codi o 1,700 o ystlumod, pan ddechreuwyd monitro’r safle hwn, i fymryn o dan 3,000 ar draws dwsin o safleoedd clwydo lleol allweddol yn 2023. Dyna beth yw gobaith!

Ariennir y prosiect hwn gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, drwy’r Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.