Mae’r pecyn addysg dwyieithog hwn wedi cael ei lunio i helpu athrawon a myfyrwyr yng Nghymru i archwilio byd cadwraeth ystlumod trwy’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae’r adnodd hwn yn cwmpasu ystod eang o feysydd dysgu a phrofiad, o wyddoniaeth, mathemateg, defnyddio iaith, daearyddiaeth, diwylliant, celf a cherddoriaeth ar gyfer disgyblion mewn addysg ysgol uwchradd. Fe’i datblygwyd ar adeg pan yw’r system addysg yng Nghymru yn destun newidiadau yn dilyn Adroddiad Donaldson 2015.

Mae’r pecyn yn cynnwys cyfres o daflenni thematig, wedi’u teilwra i roi gwybodaeth i’r myfyrwyr am ystlumod a gwyddor cadwraeth ystlumod, ac i gyfoethogi ac ehangu cyfleoedd cwricwlaidd. Mae nodiadau ychwanegol i athrawon a gweithgareddau perthnasol i bob thema wedi’u cynnwys, ac mae ffeiliau Word wedi’u darparu hefyd i’r athrawon eu defnyddio mewn cyflwyniadau PowerPoint.

Hawlfraint yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yw’r holl ddeunydd yn yr adnodd hwn, oni nodir fel arall. Cewch gopïo’r deunydd at eich defnydd personol neu at ddibenion addysgol, cyhyd â’ch bod yn cydnabod yr Ymddiriedolaeth, ac nad ydych yn ei ddefnyddio er elw masnachol.

Gallwch lawrlwytho’r pecyn o’n tudalen Adnoddau yma.

Ni ddylid gweld y pecyn hwn fel dogfen statig, ac rydym bob amser yn ceisio gwella’r hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu, fel ei fod o fudd i chi a’ch disgyblion. Byddai’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yn croesawu adborth gan athrawon ynghylch sut gallai’r adnodd gael ei wella. Cewch anfon eich syniadau aton ni i enquiries@bats.org.uk gan ddefnyddio’r pennawd pwnc Pecyn Addysg Dwyieithog Cymru – Adborth, neu eu postio aton ni i’n cyfeiriad, sydd ar gael ar.

Diolchiadau: Testun: Shirley Thompson, Joe Nunez- Mino a Steve Lucas, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod. Dylunio: Matthew Ward, a charai’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ddiolch i bawb y mae eu ffotograffau a’u darluniau wedi’u cynnwys. Cefnogir y gwaith o ddatblygu a chynhyrchu’r pecyn hwn gan Sefydliad Waterloo. Cyfieithiadau gan Trosiadau Twt