Tirlun i'r rhai lleiaf
Mae ‘Tirlun i'r rhai lleiaf' yn brosiect sy'n digwydd ar raddfa tirlun ar hyd a lled Cymru. Y nod yw darganfod ffyrdd llwyddiannus o daclo'r bygythiadau sy'n wynebu ystlumod pedol lleiaf yng Nghymru heddiw, boed yn waith sydd eisoes ar y gweill neu'n atebion newydd.
Mae poblogaeth rhyngwladol bwysig o'r ystlum pedol lleiaf Rhinolophus hipposideros yn byw yn y DU. Mae'r rhywogaeth hon wedi dirywio'n ddifrifol ar draws Ewrop ac mae Cymru a Lloegr bellach yn gadarnleoedd i'r creadur. Mae'n hollbwysig felly i flaenoriaethu gwaith cadwraeth yn yr ardaloedd hyn.
Mae BCT yn gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) i gyflawni prosiect Tirlun i'r rhai lleiaf. Mae'r prosiect yn pwysleisio'r angen i weithio ar raddfa tirlun; mae hyn yn golygu ystyried y tirlun yn ei gyfanrwydd, heb anwybyddu unrhyw un elfen unigol. Bydd y prosiect yn cyd-gysylltu gwaith mewn ardaloedd trefol, lled-drefol a gwledig a bydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i arloesi ac i gynnwys pobl mewn gweithgareddau cadwraeth. Mae'r prosiect hefyd yn anelu at roi cymorth i rywogaethau eraill o bwys sy'n defnyddio'r un math o nodweddion yn y tirlun.
Yn ystod blynyddoedd diweddar mae'r Rhaglen Genedlaethol o Fonitro Ystlumod yn y DU (y National Bat Monitoring Programme (NBMP) wedi dangos cynnydd yn nifer yr ystlumod pedol lleiaf a welwyd yn gaeafgysgu ac mewn crynoadau o unigolion ar adegau eraill o'r flwyddyn. Mae hyn yn awgrymu bod y boblogaeth genedlaethol ar gynnydd. Mae'r data ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 6.5% y flwyddyn.
Er bod hyn yn newyddion da i'r ystlum pedol lleiaf, mae'n amheus a ydyw'n bosib cynnal y math yma o gynnydd yn y tymor hir yng ngwyneb y bygythiadau difrifol sy'n peryglu'r rhywogaeth hon.
Oherwydd y bygythiadau hyn, sy'n dal i fod yn bresennol, mae'r ystlum pedol lleiaf wedi cael ei gynnwys yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU fel un o'r rhywogaethau sydd angen cymorth fel mater o flaenoriaeth.
Rhaid gwneud Gwaith Cadwraethol Uniongrychol ar gyfer yr Ystlum Pedol Lleiaf...
Os am sicrhau bod y poblogaethau yn ddigon gwydn yn y dyfodol i wrthsefyll y pwysau sydd arnynt yng Nghymru rhaid gwneud y canlynol:
- Diogelu a gwella cyflwr pob math o glwydfannau
- Gwella ac adfer cysylltiadau rhwng cynefinoedd yn y tirlun er mwyn i'r ystlumod deithio'n haws rhwng eu clwydfannau a'u mannau bwydo; a
- Sicrhau bod mannau bwydo yn gynhyrchiol iawn drwy fabwysiadu mesurau sy'n fuddiol i greaduriaid di-asgwrn-cefn.
Mae prosiect Tirlun i'r rhai lleiaf wedi cael ei hollti'n dri chymal:
- 1. Cymal 1: roedd hwn yn cynnwys Astudiaeth Gychwynnol yn Sir Benfro ac mae hwn bellach wedi ei gwblhau
- 2. Cymal 2 yw'r cymal cyfredol. Mae'r cymal hwn yn cynnwys ymarferiad i gynllunio sut y gellid rhoi gwaith cadwraeth ar waith drwy Gymru benbaladr dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Bydd y cymal hwn yn gorffen yn Chwefror 2009.
- 3. Cymal 3 : byddai hwn yn cynnwys Prosiect Gweithredu ar gyfer Cymru gyfan o 2009 ymlaen a bydd yn ddibynnol ar ganfod arian digonol ac ar gyflogi swyddog prosiect llawn amser i reoli a chydlynu'r gwaith.
Pwy sydd â diddordeb? Chwilio am gefnogaeth budd-ddeiliaid
Rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau cymryd rhan yn y prosiect hwn neu ei gefnogi mewn rhyw ffordd!
Digwyddiadau sydd ar y gweill
Bydd y Prosiect yn cael ei lansio ar Fai 22ail yn y Drenewydd.
Mwy o wybodaeth am yr ystlum pedol lleiaf
Os oes gennych sylwadau ar y prosiect, neu gwestiynau ynglŷn â'r gwaith, mae croeso i chi gysylltu â
Lisa Hundt, Swyddog Bioamrwyaeith BCT, Ebost: LHundt@bats.org.uk