Mewn Cymru

ENGLISH                                                                                                                                                        Welsh landscape (c) Richard Crompton               

Mae tirlun cyfoethog Cymru’n darparu amrywiaeth eang o gynefinoedd ar gyfer 15 o ystlumod Prydain;  hyd y gwyddom, nid yw’r ystlum clustlydan a’r ystlum hirglust llwyd yn rhan o’n ffawna. 
Mae 10 Ardal Gadwraeth Arbennig lle mae ystlumod naill ai’n nodwedd gynradd neu eilaidd yn yr ACA, a cheir manylion pob ACA ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).  Mae’r tabl canlynol yn crynhoi ffawna ystlumod Cymru o ran y ddealltwriaeth bresennol sydd gennym ohonynt.  

Prosiect Ystlumod Cymru

Yn sgîl cefnogaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Amgylchedd Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, mae'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yn medru rhedeg Prosiect Ystlumod Cymru, a fydd yn fodd i ni weithio ochr yn ochr ag 16 o Grwpiau Ystlumod gwirfoddol yng Nghymru i gyflawni'r canlynol:

  • mynd ati i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o ystlumod yng Nghymru
  • chwilio am ffyrdd newydd o alluogi mwy o bobl yng Nghymru i werthfawrogi a mwynhau ystlumod, ac ymwneud â chadwraeth ystlumod; er enghraifft, trwy sefydlu Cyfri Stlumod yng Nghymru, helpu i ddatblygu'r rhwydwaith o wirfoddolwyr ystlumod, trwy ddatblygu gallu a hwyluso rhannu gwybodaeth
  • hyfforddi gwirfoddolwyr ystlumod i gymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth ystlumod yng Nghymru
  • nodi a chydlynu prosiectau blaenoriaeth sy'n canolbwyntio ar waith cadwraeth ystlumod lleol yng Nghymru.

Rydym hefyd yn rhedeg prosiectau annibynnol megis Tirlun i'r Rhai Lleiaf, Prosiect Bechstein a Phrosiect Monitro Cynlluniau Amaeth-amgylchedd Tir Gofal, sy'n arbennig o berthnasol i Gymru.

Polisi Iaith Gymraeg

Mae cynllun iaith Gymraeg yr YCY bellach wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Wrth wneud ei waith yng Nghymru, bydd yr YCY yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal i’r graddau y mae’n rhesymol ac yn ymarferol bosibl gwneud hynny.  

Cyhoeddiadau

Mae’r cyhoeddiadau dwyieithog canlynol ar gael, fodd bynnag, rydym hefyd yn sicrhau bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael i’w lawrlwytho. Mae gan yr YCY amrywiaeth o gyhoeddiadau eraill y gallwch eu cyrchu.

Annog ystlumod  Ystlumod a'r Gyfraith 
Byw gydag ystlumod Ystlumod Prydeinig
Helpwch ni gyfrif ystlumod      Ystlumod y byd
Pa ystlum yw hwnna?  

I gael rhagor o wybodaeth am beth sy'n digwydd yng Nghymru, cysylltwch â Swyddog Ystlumod Cymru, neu ewch i'n tudalen digwyddiadau.

Swyddfa Cymru: Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, Stryd Pier,  Abertawe, SA1 1RY
Ffôn: 01792 643 152  Symudol: 07531 549 547
E-bost: slucas@bats.org.uk

    CCW                                        Environment Wales                                       HLF